Scott Sports – GWYLNOS YR WYDDFA 2025

HYFFORDDI GWYCH FIS CYN Y RAS EI HUN

Mehefin 27 18:00 (yn dibynnu ar y tywydd)

https://secure.onreg.com/onreg2/front/step1.php?id=6063

Entriwch yma – Gwyll yr Wyddfa 2025

Bydd y ddolen gofrestru ar gael ar Ebrill 27, 2025 am 18:00pm

COFRESTRU YN CAU – 3ydd o Fehefin, 2025

CYCHWYN Y RAS –  Rhedeg i fyny’n unig  fydd y ras. Bydd yn cychwyn ym Mharc Padarn (yr un lle â Ras yr Wyddfa) ac ar hyd Llwybr Llanberis I gopa’r Wyddfa.

Gobeithir cychwyn y ras am  18:00pm. Dylai pawb fod ar y top o fewn awr a chwarter. Os na fydd rhedwr wedi cyrraedd Gorsaf Clogwyn o fewn awr a phum munud bydd yn cael ei atal rhag mynd ym mhellach  (yn dibynnu ar y tywydd).

RHYBUDD I BOB RHEDWR
• RHAID I BOB RHEDWR GARIO CIT CORFF LLAWN, mewn bag canol ac ati
• RHAID I BOB RHEDWR GARIO TORJ PEN
• BYDD TJECIO HYN AR Y DECHRAU wrth gyfrif y rhedwyr
• HEB HYN NI CHEIR RHEDEG

Bydd stiwardiaid mewn mannau penodol ar hyd y llwybr : Hebron, Hanner Ffordd, Allt Moses, Clogwyn, Bwlch Glas a’r Copa

Cofrestru 3.30 – 5.15pm – Ganolfan Cymunedol (ger y cae)

Ar lein yn unig y bydd cofrestru ar gyfer “Gwyll yr Wyddfa”. Gellir entrio MAI 1af am hanner dydd (nid hanner nos fel yr arferai fod). Ni fydd dim yn cael ei yrru yn y post. Bydd pawb yn cael ei rif wrth gofrestru o 3:30 – 515pm  ar ddydd Gwener Mehefin 28 yn Ganolfan Cymunedol.

Bydd amseru chip , diolch i Wasanaethau TDL Events Services a cheir crys T. diolch i Rheilfford dy Wyddfa.

CYFLE HYFFORDDI GWYCH FIS CYN Y RAS

Cyflwyno 7.45 pm

Bydd cyflwyno gwobrwyon yn y Vic am 7.45pm. Caiff pawb wedyn hamddena dros beint neu ddau yn cnoi cil ar y ras.

Bydd gwobrwyon yn cael eu rhoi gan un o’n noddwyr cwmni Scott Sports. Bydd rhai gwobrwyon ar hap, felly dylai pawb ddal gafael ar ei rif rhedeg.!

Mi ydym fel Pwyllgor Ras yr Wyddfa  yn falch o greu digwyddiad fel hwn. Mae’r un fath o ras yng Nghymru.

Bydd  “Ras Gwylnos yr Wyddfa”  yn cael ei chynnal ar Fehefin 28, 2024 ‘chydig o wythnosau cyn y brif ras: Ras Ryngwladol yr Wyddfa. Bydd y rhedwyr sydd am redeg y brif ras yn cael cyfle i gystadlu  i fyny. Dylai fod yn hyfforddiant delfrydol.  Dim ond 200 gaiff gystadlu. Gan obeithio y bydd y tywydd yn caniatáu i bawb weld y golygfeydd o’r copa.

Mae’n un o rasys mawr rhedeg mynydd ac yn tynnu rhai o’r rhedwyr gorau o fannau ar draws Ewrop. Ond dim ond ers 2015 y cynhaliwyd Ras y Gwylnos. Teimlai Pwyllgor Ras yr Wyddfa fod y ras newydd hon yn ychwanegu at y gweithgareddau ac yn hybu’r economi’n lleol hefyd.

Bydd rhedwyr yn dod o bob rhan o Brydain ac Ewrop, lawer gobeithio yn aros nos Wener  y ras ac yn aros fwrw’r Sul i gael mwy o gyfle i fwynhau hen fynyddoedd Eryri.
!Diolch unwaith eto am y cefnogaeth gan Rheilffordd y Wyddfa.

Diolch,

Stephen Edwards
Trefnydd y Ras