44fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell – rhagolwg o’r ras
Llanberis – Bydd dros 650 o redwyr yn ei mentro hi eleni yn y 44fed ras – ras sydd dan nawdd noddwr newydd, Castell Howell: 44fed Castell Howell Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 22ain – un o uchafbwyntiau’r byd chwaraeon yng Nghymru.
Fel pob tro mae yna gryn ddisgwylgarwch. Mae nifer o athletwyr gorau Prydain a’r byd yn cymryd rhan: Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Cenia, Japan, Ffrainc a’r Eidal. Bydd y rhain yn cystadlu a channoedd o redwyr o glybiau gwahanol yn rhedeg y 10 milltir i ben yr hen fynydd.
Eleni mae’r ras yn rownd yng nghwpan y Byd Cymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd. Bydd rownd 4 y bencampwriaeth (allan o 7 rownd) yng Ngorffennaf yn Llanberis. Mae’r bencampwriaeth mewn 7 gwlad wahanol gyda thros 140km o lwybrau mynydd, 9300m+ o ddringo a chyfanswm gwobrau tua 56,000 ewro gyda rancio cystadleuwyr ar safon byd.
Bydd y digwyddiad ar y teledu, gyda rhaglen uchafbwyntiau awr o hyd ar nos Sul Gorffennaf 21ain am 8 p.m. ar S4C.
Ystyrir Ras yr Wyddfa fel un o rasys mawr rhedeg mynydd. Mae wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd. Mae sawl un rhedwr cyffredin wedi rhyw feddwl am gystadlu ond cymharol ychydig sy’n gwneud.
Rhagolwg Ras y Dynion
Mae’r Eidal wedi gadael ei hôl ar y ras dros y blynyddoedd, gan ennill nifer o weithiau dros y deugain mlynedd. Eleni bydd yr Eidal yn obeithiol y gall ennill am y trydydd tro yn olynol ar ôl Davide Magnini yn 2017 ac Alberto Vender yn 2018.
Yn 2019 dyma weld yr efeilliaid talentog o’r Eidal Bernard a Martin Dematteis. Mae’n saff y bydd yr ‘Azzurri’ yn agos at y brig. Mae’r ddau wedi ennill medalau ar sawl achlysur mewn cystadlaethau Ewrop a Byd. A chyda Luca Cagnati (3ydd yn 2016) fel rhan o dîm yr Eidal hefo’r efeilliaid, mae yna siawns go dda mai’r Eidal aiff â gwobr tîm y dynion.
Bydd rhedwyr Cymru wrth gwrs yn trio eu gorau glas yn eu cynefin. Yn nhîm A Cymru mae yna athletwyr profiadol iawn sy’n nabod y mynydd yn dda. Yn anffodus bydd Gareth Hughes y Cymro cyntaf yn 2017 (sy’n byw yn Nant Peris) – yn methu â chystadlu am iddo gael ei anafu yn ddiweddar yn ras Moel Hebog.
Un o arweinwyr rhedwyr Cymru fydd Mark Hopkinson, mae wedi gwella llawer eleni – y fo enillodd Ras Cader Idris fis Mai.
Mae Russell Bentley bellach yn hen gyfarwydd â’r ardal, ac wedi ennill Marathon Eryri ddwywaith yn un arall o sêr Cymru. Fo oedd yr ail yn Ras y Gwyll ym mis Mehefin yn rhedeg i fyny’r Wyddfa – mae mewn cyflwr da ar hyn o bryd. A hefyd yn nhîm Cymru bydd Richard Roberts (o ddyffryn Ogwen yn wreiddiol) yn hen law ar y ras erbyn hyn.
Mae gan Gymru Dîm B hefyd – sgwad ar gynnydd: Dan Bodman (o’r De), Tristan Evans Meirionnydd, Michael Corrales, Stephen Skates ac Eryri Harrier Owain Williams (Rhedwyr Eryri) fydd y tîm.
Bydd gan Loegr dîm cryf a byddant yn herio fel tîm ac fel unigolion. Mae Dan Haworth, Michael Cayton, Billy Cartwright a Joe Baxter yn bedwar heb lawer o brofiad o ran Ras yr Wyddfa. Wedi dweud hynny maen nhw i gyd wedi bod yn perfformio’n dda dros yr haf yma – bydd y rhain yn o uchel ar y diwrnod.
Am yr Alban – cafodd hithau ei llwyddiannau dros y blynyddoedd, Ymhlith y ffefrynnau bydd Andrew Douglas (un a oedd yn rhan o dîm Prydain a enillodd aur yn ddiweddar). Cafodd hwyl arni ar gylchdaith WMRA am y ddwy flynedd ddiwethaf hefyd. Ato daw James Espie (5ed yn 2017) sydd hefyd ar ei orau ar hyn o bryd. Ewan Brown a John Yells yw’r ddau arall yn y tîm.
Mae Iwerddon wedi cael llwyddiant dros y blynyddoedd . Ar ôl cystadlu’n arbennig ym Mhencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar mae Zak Hanna yn arwain Tîm Iwerddon ac yn meddwl am wella ar berfformiad gorau yn y ras (7fed yn 2018). Hefo fo bydd: Mark Stephens, Conor O’Mahony a Killian Mooney.
Y tîm rhyngwladol arall ydyw Gogledd Iwerddon gyda Shane Donnelly,(wedi rhedeg y ras sawl gwaith) Tim Johnson, Aaron McGrady and Jonathan Scott.
Hefyd bydd tri rhedwr o ynys Malta yn teithio i Lanberis i redeg yr Wyddfa am y tro cyntaf.
Gyda’r digwyddiad yn rownd o fewn pencampwriaeth y byd (WMRA) mae naws ychydig yn wahanol i ras y dynion a’r merched. Ymhlith y cystadleuwyr mae Robert Panini sy’n athletwr diddorol o fan pellennig o wlad Cenia. Hefyd o’r Unol daleithiau daw Sam Sahli – am y tro cyntaf i redeg mynydd uchaf Cymru.
Eleni bydd timau gan yr Awyrlu – (dynion a merched) gyda Ben Livesey yn arwain tîm y dynion.
Rhagolwg Ras y Merched
Bydd ras yr Wyddfa 2019 yn saff o fod yn un dra chyffrous. Yn anffodus ni fydd Bronwen Jenkinson (enillydd 2018) yno am iddi gael ei hanafu. Bydd sawl un yn tybio mai Sarah McCormick o Iwerddon aiff â hi. Mae hi wedi ennill ddwywaith yn barod yn 2014 a 2015..
Gwnaeth Sarah McCormick yn dda ym Mhencampwriaethau Ewrop yn gorffen yn yr 16eg safle. Becky Quinn, Sinead Murtagh a Dierdre Glavin ydyw gweddill tîm Iwerddon.
Elisa Sortini ydyw’r unig Eidales yn y ras eleni. Ond ar ôl dod yn bedwaredd yn 2015, mae ganddi syniad o sut ras ydyw hon, a gobaith y bydd hi mewn safle hyd yn oed yn uwch eleni.
Gwnaeth Tîm Merched Cymru berfformiad clodwiw iawn yn 2018: Bronwen Jenkinson (cyntaf) gyda Katie Beecher (8fed) ac Elliw Haf (10fed). Bydd Katie Beecher ac Elliw Haf eto yn y tîm gyda Faye Johnson sy’n rhedeg dros Gymru am y tro cyntaf a Gemma Moore, rhedwraig arall o’r Gogledd.
Does dim dwywaith na bydd tîm merched Lloegr eto’n debygol o fod ar y blaen. Mae Hatti Archer wedi rhedeg rasys trac dros Brydain cyn troi i redeg mynydd tua dyflwydd yn ôl. Mae wedi gwneud yn dda ar lefel Ewrop a’r Byd. Roedd yn 29ain ddechrau’r mis mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.
Mae Kelli Roberts wedi gadael ei hôl ym Mhencampwriaeth Rhedeg Mynydd Prydain eleni mae wedi ennill y tair rownd gyntaf. Gyda’r ddwy bydd Katie Walshaw (3ydd 2015) a rhedwraig ifanc Jemima Elgood. Mae’r rhain yn dîm peryg’.
Ar ôl disgleirio a bod yn ail yn ras y llynedd, bydd Miranda Grant yn arwain tîm merched Yr Alban ynghyd â Scout Adkin, (ail yn 2017) Louise Mercer a Jill Mykura. Bydd y rhain yn siŵr o fod yn dra awyddus i guro Tîm Lloegr.
Bydd y ddwy hen law Megan Wilson a Shileen O’Kane yn cynrychioli Gogledd Iwerddon gyda dwy newydd, Sarah Graham a Kiara Largy.
Fel yn ras y dynion bydd Cwpan Byd Cymdeithas Redeg Mynydd y Byd (WMRA) wedi sicrhau y bydd rhai merched o safon ryngwladol uchel yn ymddangos eleni.
Bydd Lucy Wambui (Cenia) yn un o’r sêr o bell. Mae hi wedi ennill ras enwog Sierre-Zinal yn y Swistir ymhlith llwyddiannau eraill Hefyd yn dychwelyd ar ôl anafu bydd Emma Clayton. Mae hi wedi rhedeg dros e wedi cryfhau yn arw. Mi fydd hi’n siŵr o fod ymhlith y rhai cyntaf.
Yn dangos pa mor boblogaidd yw’r ras gwerthwyd y 650 lle i gystadlu o fewn diwrnod ar Fawrth y cyntaf. Wedyn heb oedi roedd Stephen Edwards y trefnydd yn medru cau pen y mwdwl o ran cystadleuwyr a mynd ati i baratoi ar gyfer ras 2019.
Mae Stephen yn awyddus iawn i bwysleisio mai dim jest ras sydd yma. Mae yna noddwyr yn cefnogi, atyniadau yn y cae lle mae’r ras yn cychwyn – yn wir mae bywyd Llanberis ar y trydydd penwythnos yng Ngorffennaf yn troi rownd y ras:
“Mae’n argoeli y bydd ras 2019 yr orau erioed! Ein prif noddwyr newydd eleni yw Castell Howell ac y mae’n gyffrous iawn bod rownd 4 Cwpan y Byd yn Llanberis!
“Gwelodd Castell Howell y cyfle i noddi’r ras hynod hon fel modd cadarnhaol o ddod i gyswllt â’r gymuned leol.
Meddai Kathryn Jones cyfarwyddwr gwerthiant Castell Howell:
“Mi ydym yn falch iawn o’n gwreiddiau gwledig a chefnogi’r cymunedau yr ydym yn gweithio yn eu plith ydyw un o’n gwerthoedd canolog. Yma yn y Gogledd mi ydym yn lwcus o gael yr Wyddfa – mynydd sydd a’i enwogrwydd ymhell tu hwnt i Gymru. Mae’r mynydd yma fel cefndir o fewn dim i ardal lle byddwn wrthi’n ddyddiol yn danfon nwyddau i’n cwsmeriaid. Mi ydym wrth ein boddau’n cael y cyfle i gefnogi’r 44fed ras: Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell, ras sy’n croesawu rhedwyr o Gymru a phedwar ban y byd..”
Ac meddai Stephen Edwards:
“Cawsom y cynnig eleni i fod yn rhan o Gwpan y Byd. Ac wrth gwrs yr oeddem wrth ein boddau. Dylai hyn godi proffil y ras ymhellach eto ar lwyfan byd. Bydd hyn yn siŵr o sicrhau y bydd athletwyr o safon byd yn cystadlu..
Digwyddiad arall a fydd eto’n cael ei gynnal ar y diwrnod fydd y rasys iau am 2.10pm – ddeg munud ar ôl y brif ras. Hefyd bydd ‘Hwyl i Bawb’ – ras i’r teulu am 10.30am, ac ar y Nos Iau bydd rasys ieuenctid lle ceir dros 200 yn cymryd rhan
Bydd y rasys iau eleni eto yn cael eu cefnogi gan fusnesau lleol Amdro a thîm Chyngor Gwynedd.
Ac meddai Stephen Edwards:
“Cawsom y cynnig eleni i fod yn rhan o Gwpan y Byd. Ac wrth gwrs yr oeddem wrth ein boddau. Dylai hyn godi proffil y ras ymhellach eto ar lwyfan byd. Bydd hyn yn siŵr o sicrhau y bydd athletwyr o safon byd yn cystadlu..
“O ran y cyfryngau bydd rhaglen deledu ar y ras ar y Sul canlynol ar S4C a byddwn yn defnyddio Facebook Live i ddangos diwedd y ras. Fel mudiad gwirfoddol yr ydym ninnau yn rhoi oriau lawer o waith i drefnu ochr gymunedol y digwyddiad. Bob blwyddyn bydd busnesau lleol yn rhan o’r ddarpariaeth a bydd miloedd o bobl yn ymddangos i wylio’r rhedwyr o’r dechrau i’r diwedd. Mae pawb ar ei ennill.
“Mae’r bwrlwm yn Llanbêr cyn y ras yn anhygoel. Rhaid i rywun fod yno i ddeall hynny. Mae’r ras yn golygu cymaint i’r pentref. Maent yn falch o’r ras a’r hyn mae’n ei ddangos i’r miloedd o ymwelwyr. O feddwl cymaint y mae wedi tyfu ers ei chychwyn digon disylw ymhell yn ôl yn 1976.”
“Ond mae’n bwysig nodi na ellid cynnal yr achlysur heb gefnogaeth Inov8, Clif Bar, Cwmni Trên Bach yr Wyddfa, Gwesty’r Victoria, S4C (teledu eto), Athletau Cymru, Ffrwythau DJ, Scaffaldiau Steel , Sports Pictures Cymru, y pwyllgor a phobl Llanberis. Dyma sy’n dod a’r hwyl a’r hud i’r digwyddiad – mae’n ddigwyddiad rhyngwladol gyda naws lleol – hir y parhao felly. Byddwn hefyd yn lecio diolch i Adran Weithgareddau Cyngor Gwynedd am gefnogi’r ras unwaith eto eleni yn enwedig o gofio ei bod yn ras sy’n rhan o bencampwriaeth y byd.”
Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Cyngor Gwynedd: Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:
“Mae denu Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd y Byd i Lanberis yn rhywbeth y dylid yn wir ei ddathlu. Mae’r digwyddiad wedi cynyddu yn ei boblogrwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, ond allwedd y llwyddiant ydyw ymroddiad gweithwyr gwirfoddol lleol. Mae eu gwaith caled a’u gweledigaeth nhw yn hanfodol i’r ras.
“Fel cyngor mi ydym yn falch iawn o gael cydweithio hefo pencampwriaeth y Byd a Ras Ryngwladol yr Wyddfa gan gynnig cymorth ariannol ac ymarferol.”
Bydd Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn ymgorffori pencampwriaeth Redeg Mynydd y Byd yn cael ei chynnal yn Llanberis ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 20fed 2019 am 2 o’r gloch.
Am fwy o wybodaeth https://www.snowdonrace.co.uk