Yn anffodus nid yw\’r cynnwys yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.
Author Archives: Stephen Edwards
Ras Gwyll Yr Wyddfa – Llanberis
RAS GWYLL YR WYDDFA ** SNOWDON TWILIGHT
JEST Y PETH I BARATOI AT Y RAS EI HUN FIS YNGHYNT
Gwener Mehefin 26 7pm – 7.30pm (yn dibynnu ar y tywydd)
CYCHWYN – Bydd y ras yn mynd I FYNY yn unig a bydd yn cychwyn ym Mharc Padarn (yr un lle a’r ras fawr) gan ddilyn llwybr Llanberis i’r top.
Bydd yn cychwyn RHWNG 7- 7.30pm a gobeithio y bydd pawb wedi cyrraedd y copa o fewn awr a chwarter. Os na fydd rhedwr wedi cyrraedd Clogwyn o fewn awr a phum munud, yna ni chaiff fynd ddim pellach i fyny (Mae pob dim yn dibynnu ar y tywydd)
RHYBUDDIR PAWB
• RHAID I BOB RHEDWR GARIO CIT RHEDEG LLAWN
• RHAID I BOB RHEDWR GAEL TORTJ BEN
• BYDDWN YN TJECIO BOD HYN AR Y DECHRAU
• ONI BO’R RHAIN GAN RYWUN , YNA NI CHAIFF REDEG
Bydd stiwardiaid mewn mannau ar y llwybr: Hebron, Hanner Ffordd, Allt Moses, Clogwyn, Meini Bwlch Glas a’r Copa
AR Y COPA – Unwaith y byddwch yno cewch fynd i’r caffi, dangos eich rhif i gael diod boeth (te neu goffi) a fflapjac, neu cewch fynd i lawr yn ôl i Lanberis.
Tua 9pm (yn dibynnu ar y tywydd bydd stiwardiaid yn tjecio nad oes neb wedi ei adael ar ôl ar y top i ymorol bod pawb yn cyrraedd yn ôl i Lanberis yn saff. Bydd stiwardiaid a rhai o’r tîm achub mynydd yno. Cofiwch sicrhau nad ydych yn colli’ch ffordd ac yn mynd i lawr yn syth i’r dde na’r chwith wrth Feini Bwlch Glas na dal ymlaen ac i’r dde am Garnedd Ugain. Cadwch ar y llwybr y daethoch ar ei hyd ar y ffordd i fyny.
Am y tro cyntaf erioed bydd y caffi ar y copa’n agored tan 10 o’r gloch y nos diolch i gwmni trên bach yr Wyddfa.
Cofrestru 3.00 – 6.30pm
Mae cofrestru ar gyfer “Snowdon Twilight” ar lein yn unig o Ebrill 24 am hanner dydd. (Hanner dydd yn lle hanner nos am newid).
Ni fydd dim yn cael ei yrru yn y post. Gallwch nôl eich rhif o ganolfan y ras rhwng 3 a 6.30pm ddydd Gwener Mehefin 26.
Cofrestrir yng Ngwesty’r Victoria.
Mae’r tâl cystadlu’n cynnwys amseru hefo tjip diolch i TDL Events Services, hefyd grys t penodol i chi gyda’ch rhif arno, mwg y ras, diod a fflapjac yn y caffi diolch i gwmni Trên Bach yr Wyddfa.
HYFFORDDIANT GWYCH FIS CYN Y RAS EI HUN
Cyflwyno Gwobrau 10.00pm
Bydd cyflwyno gwobrau ar y copa neu yng Ngwesty’r Victoria yn Ystafell Dinorwig am 10pm. Caiff pawb wedyn gyfle i gnoi cil ar y ras a chael peint neu ddau.
Ein noddwr Salomon fydd yn rhoi’r gwobrau. Bydd yna hefyd wobr ar hap – felly daliwch eich gafael ar eich rhif rhedeg. Dyma’r tro cyntaf erioed i’r caffi fod yn agored ar ôl 7pm……… werth bod yno!!!
Pwyllgor gwirfoddol ydyw Pwyllgor Ras yr Wyddfa, ac mae’n falch o gynnig yr achlysur gwahanol hwn. Does yna ddim byd hollol yr un fath yn unman arall.
Gyda Ras ryngwladol yr Wyddfa Tyn Lon Volvo yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn ychwanegiad arbennig at yr achlysur ydyw clywed am ras newydd i fyny’n unig i ben yr Wyddfa (1085m uwchlaw’r môr).
Bydd “Snowdon TWILIGHT” yn cael ei chynnal ar Fehefin 26 June 2015 am 7pm, fis cyn y ras fawr ei hun.
Bydd yn rhoi cyfle i redwyr (sy’n mynd i gystadlu yn y ras fawr) i fynd I FYNY mewn modd cystadleuol – hyfforddi delfrydol. Dim ond tua 200/250 fydd yn cael cymryd rhan o redeg o Lanberis i’r copa. Gan obeithio y bydd yna olygfeydd gwych ar y diwrnod.
Ystyrir Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn o’r rasys mynydd mawr a fydd yn denu rhedwyr da o lawer man ar draws Ewrop. Eleni fydd y 40fed ras.
Penderfynodd y pwyllgor ar 40fed blwyddyn y ras gyflwyno’r ras newydd hon. Gobeithir y daw ag incwm ychwanegol Yr ydym yn cynnal wythnos lawn o weithgareddau rhwng 11fed a 18fed o Orffennaf a fydd yn sicr o werth economaidd i’r ardal.
Bydd rhedwyr o bob man yn cyrraedd i aros ar nos Wener (noson y ras) a thros y penwythnos bydd rhai yn cael cyfle i daro golwg ar gwrs Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd y Byd ym metws y Coed fis Medi eleni .
DOLEN I GYSTADLU
https://secure.onreg.com/onreg2/front/step1.php?id=2785
Yn edrych ymlaen at eich gweld yno .
Diolch,
Stephen Edwards
Trefnydd y Ras