47fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell 2024 – Rhagolwg y Ras
Llanberis – Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan y 47ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa a noddir gan Castell Howell ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf, mae rhedwyr mynydd o bob rhan o Ewrop yn paratoi i fynd i Lanberis, ar gyfer un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf ar galendr Cymru a gynhaliwyd bron yn ddi-fwlch er 1976.
Bellach yn ei 49ain flwyddyn mae’r ras yn cael ei ystyried yn un o’r rhai mwyaf ym myd rhedeg mynydd, ac mae disgwyl am y digwyddiad eleni unwaith eto, gyda rhai o athletwyr gorau’r Prydain yn cymryd rhan o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gellir disgwyl y blas rhyngwladol hwnnw dros y penwythnos gan y bydd rhedwyr o’r Eidal a Gweriniaeth Iwerddon unwaith eto yn o fewn gafael i ennill wrth i bawb fynd benben a rhwbio ysgwyddau gyda rhedwyr clwb a’r rheiny sydd ond yn gobeithio cwblhau 10 milltir hegar y mynydd enwog hwn.
Rhagolwg Dynion
Fel erioed bydd tîm Cymru yn ymdrechu i berfformio’n dda ar dir cartref. Gavin Roberts, Tom Wood, Gareth Hughes a Rhys Jones ydyw’ pedwar, gyda Rhys Jones hefyd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn fest goch Cymru.
Bydd tîm Lloegr yn gryf iawn ac yn cael eu harwain gan ffefryn i ennill y ras, Joe Steward, yn syth ar ôl cael ei goroni’n Bencampwr Rhedeg Mynydd Ewrop ym mis Mehefin. Grant Cunliffe, Ben Sharrock a Jack Wright sy’n cwblhau’r tîm o Loegr.
Mae gan yr Eidal hanes cryf o lwyddiant yn y digwyddiad, a byddant yn edrych i’w gwneud yn bedair buddugoliaeth yn y chwe ras diwethaf ras, ar ôl y buddugoliaethau gan Davide Magnini (2017) Alberto Vender (2018) ac Isaacco Costa yn 2023. Mae Matteo Rossi, Lorenzo Cagnatti ac Elia Mattio yn teithio Cymru eleni i weld a allan nhw ychwanegu eu henwau at y rhestr yr Eidalwyr llwyddiannus.
Mae’r Alban yn wlad arall sydd wedi blasu llwyddiant ar ras yr Wyddfa dros y blynyddoedd diwethaf gydag Andrew Douglas yn ennill yn 2019 a Ross Gollan yn 2022. Eleni mae’r Albanwyr yn cael eu harwain gan Jacob Adkin, rhedwr rhyngwladol Prydain ac yn ail y tu ôl i Joe Steward rhai a fu’n ddiweddar yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd. Euan Brown, Keiran Cooper a Robin Downie ydyw tri aelod arall y tîm.
Mae gan Weriniaeth Iwerddon hanes da o lwyddiant yn y digwyddiad, gyda Zak Hanna yn 4ydd yn 2019, ac mae’n dychwelyd yn 2024. Cefnogir Zak gan Aaron McGrady a Matthew McConnell yn y festiau gwyrdd.
Yn cwblhau’r timau rhyngwladol mae Gogledd Iwerddon, gyda Tom Crudgington, Ashley Crutchley, Keith Johnston a Joshua McAtee yn gwneud y daith i Gymru.
Rhagolwg Merched
Gyda Sarah McCormack o Weriniaeth Iwerddon yn tynnu’n ôl yn hwyr o’r ras eleni, mae’r frwydr am goron ras y merched yn agored iawn yn 2024. Rhai o’r merched o Iwerddon yn fydd Aoife Courtney a Jo Hickman-Dunne.
Ar ôl 5ed safle gwych yn y pencampwriaethau Ewropeaidd hynny mae Naomi Lang o’r Alban yn gwneud y daith i Gymru a hithau a rei gorau. Yn ymuno â hi bydd Catriona MacDonald, Jill Stephen ac Ella Peters, sy’n golygu y bydd y merched yr Alban yn debygol iawn o fod y agos at y brig.
Daeth Beatrice Bianchi o’r Eidal yn 3ydd yn 2023 a bydd yn ceisio dringo’r podiwm hwnnw yn 2024 wrth iddi ddychwelyd i herio am y brig. Yn ymuno â hi mae Vivien Bonzi a Luna Giovanetti yn y lliwiau Azzuri enwog.
Mae gan Gymru dîm cryf unwaith eto gyda’r Elliw Haf Roberts yn rhedeg, hithau wedi ennill ras y Cader Idris fis Mai. Yn ymuno ag Elliw mae Lucy Williamson, Katrina Entwistle a Bethan Logan o glwb Mynydd Du.
Nid oes amheuaeth y bydd tîm merched Lloegr unwaith eto yn heriol i frig y podiwm. Yn 2023 bydd Phillipa Williams yn dychwelyd i Lanberis i weld a all hi gymryd y teitl ac ychwanegu ei henw at y rhestr ddisglair o enillwyr merched Lloegr fel deiliad record y ras, Carole Greenwood, a Mary Wilkinson enillydd y ras dair gwaith. Bydd Phillipa yn ymuno â lliwiau Lloegr gyda Antonia Fan, Alexandra Whitaker ac Eve Pannone
Yn cynrychioli Gogledd Iwerddon bydd y rhedwraig ryngwladol, Diane Wilson sydd â phrofiad da o ras yr Wyddfa, ac yn ymuno â hi yn Llanberis bydd Tanya Cumming, Catriona Edington a Naomi McCurry.
I ffwrdd o ochr elitaidd y ras bydd un rhedwr unwaith eto yn gwneud hanes yn 2024. Rhedodd Malcolm Jones o Dremadog yn y ras gyntaf un yn 1976 ac mae wedi llwyddo i gwblhau pob ras ers hynny, camp syml anhygoel. Felly, bydd Malcolm yn rhedeg ei 47fed Ras yr Wyddfa eleni ac yn creu hanes fel yr unig berson i gystadlu ym mhob digwyddiad yn ystod y 49 mlynedd diwethaf.
Bydd y ras unwaith eto yn cael ei darlledu ar deledu daearol drwy S4C ac ar gael hefyd ar BBC iPlayer, gyda’r rhaglen uchafbwyntiau yn cael ei chynhyrchu gan gwmni cynhyrchu Cwmni Da, o Gaernarfon.
Nodweddion eraill y dydd fydd y rasys iau traddodiadol yn dechrau deg munud wedi’r brif ras am 2.10pm ar y dydd Sadwrn am 10-18 mlynedd, gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri unwaith eto a byddant yn cael eu trefnu gan dîm Byw Iach, Cyngor Gwynedd.
Bydd cofrestru ar gyfer y rasys hyn yn digwydd rhwng 9.30am a 1.30pm yng nghanolfan gymunedol Llanberis.
Mae trefnydd y ras, Stephen Edwards, yn gyfrifol am ei 14eg ras 2024 (16mlyned di gyd), ac meddai:
“Mae’r bwrlwm yn y pentref bach yma yn dod Mae penwythnos Ras yr Wyddfa yn anghredadwy, mae’n rhaid i chi fod yma i allu deall hynny. Mae’r ras hon yn golygu cymaint i’r ardal a phobl Llanberis. I feddwl sut mae wedi prifio dros yr holl flynyddoedd hynny ers y ras gyntaf yn ôl yn 1976 – mae’n anhygoel a dweud y gwir. Maer Ras yn meddwl lot fawr imi, fel hogyn o Llanberis ac fi syn trefnu un or rasus mwy iocnig Cymru ar byd”
“O safbwynt y cyfryngau mae gennym y pecyn uchafbwyntiau teledu arferol ar S4C a byddwn yn defnyddio Facebook Live i ddarlledu gorffeniad y ras. Rydym ni fel mudiad gwirfoddol hefyd yn rhoi oriau o waith i drefnu’r agwedd gymunedol ar gyfer y digwyddiad rhyngwladol hwn a busnesau lleol sydd mor bwysig i ni gymryd rhan bob blwyddyn, hefyd mae miloedd o wylwyr yn dod allan i weld y rhedwyr, felly mae’n sefyllfa lle mae pawb sy’n cymryd rhan.
“Yn yr un modd, ni allem gynnal y ras heb gefnogaeth barhaus y noddwyr Castell Howell, SCOTT Sports, Pete Bland Sports, Rheilffordd yr Wyddfa, Gwesty’r Royal Victoria, S4C, Cwmni Da, Welsh Athletics, Oren, Bragdy Mws Piws Piws Purple Moose, Always Aim High Events, Sports Pictures Cymru ac Adran Ddigwyddiadau Cyngor Gwynedd.
“Bydd Tîm Chwilio ac Achub Aberglaslyn ar draws y mynydd gan gadw ein rhedwyr yn ddiogel ac rwy’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth lawn y tîm ym Mharc Cenedlaethol Eryri hefyd.
“Yn olaf, mae fy niolch o waelod calon yn mynd i bwyllgor Ras yr Wyddfa a chymuned Llanberis sy’n hynod o weithgar ac yn gefnogol i mi fel trefnydd y ras. A dyna sy’n gwneud y ras hon mor hudolus – mae’n ddigwyddiad rhyngwladol, gyda naws leol, a hir y bydd hynny’n parhau.”
Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.snowdonrace.co.uk
DIWEDD