Llanberis, – Eleni mae noddwr newydd i’ Ras Ryngwladol yr Wyddfa 41 Elim Peugeot a chyda 650 o redwyr mae’r digwyddiad yn siŵr o fod yn un o uchafbwyntiau byd chwaraeon Cymru.. Y llynedd mi oedd yna sbloet o ddathlu’r deugeinfed ras gyda chyn-enillwyr ac yn cychwyn o’r Stryd Fawr. Eleni bydd y ras yn cychwyn yn y lle arferol ym Mharc Padarn ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 16.
Mae edrych ymlaen mawr am y ras eleni. Mae rhai o redwyr gorau Prydain yn cystadlu.. Mae timau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Eidal. Unwaith eto bydd y rhain yn gwthio i’r eithaf am y 10 milltir i fyny ac i lawr yr hen fynydd.
Mae’r ras yn cael ei hystyried yn un o’r rhai mwyaf o ran rhedeg mynydd ac yn denu cystadleuwyr o bob rhan o Ewrop. Ond dros amser tyfodd y digwyddiad. Daeth yn ddigwyddiad y mae sawl un wedi ei osod fel rhywbeth y byddent yn rhoi ar restr o bethau i’w cyflawni unwaith yn eu hoes.
Cyn y ras eleni hefyd bydd Cwpan yr Wyddfa – ras i fyny’n unig (drwy wahoddiad yn unig). Bydd yn dechrau am 10.30am ar ddiwrnod y ras, gyda rhedwyr arbennig iawn yn cystadlu..
Mae’n amlwg bod hon yn ras fawr yn boblogaidd iawn. Dridiau yn unig ar ôl Mawrth 1, pan oedd cyfle i wneud cais am redeg, mi oedd y 650 lle wedi eu cymryd. Wedyn gallai’r trefnydd Stephen Edwards fwrw iddi gyda’r paratoadau. Meddai:
“Fel bob tro mi oedd digonedd eisio cystadlu. A byth ers yr amser cau mi ydw i wedi cael sawl un yn gofyn am le i redeg er bod y ras yn llawn. Ychydig feddyliwyd yn 1976 pan gynhaliwyd y ras gynta’, faint o ddigwyddiad fyddai erbyn heddiw. Mae’r Wyddfa bellach yn un o’r mynyddoedd mwya’ poblogaidd ym Mhrydain a dyna ydy peth o’r atyniad i rai rhedwyr – cael y teimlad fod yna wylwyr a chefnogwyr ar hyd y llwybr i’r top ac i lawr wedyn..
“Dylai fod yn ras wych eto gyda chystadleuwyr brwd iawn. Bydd y ras ar S4C ar y Sul ac ar ddiwrnod y ras ar ôl 6 y noson honno bydd diwedd y ras ar Facebook Live.”
Mae cystadleuaeth y dynion yn gwbl agored eto eleni.
Ar ôl ennill dair gwaith yn 2002, 2003 a 2005 bydd Tim Davies yn cystadlu eleni, ar flaen tîm Cymru cryf. Hefo fo bydd Matthew Roberts, Russell Bentley a’r rhedwr lleol Gareth Hughes.
Ar ôl brwydr neilltuol y llynedd bydd y trydydd y pryd hwnnw, Ben Mounsey o Loegr yn ôl i weld all o ennill yn 2016. Mae gan Loegr dîm da iawn gyda Ben Mounsey bydd Chris Smith, Rob Hope a Chris Farrell.
Yn dilyn buddugoliaeth Emanuele Manzi llynedd bydd gan yr Eidal dri rhedwr newydd Marco Leoni, Luca Cognate a Gianpietro Bottà. Bydd Nicola Pedergnana yn cystadlu yn ras y merched.
Mae Iwerddon wedi gadael ei hôl sawl gwaith ar y ras. Eleni bydd Brian MacMahon hen law ar y ras, yn arwain gyda James Kevan, Brian Furey, Andrew Annett yn gwneud y tîm o bedwar, Tîm Gogledd Iwerddon ydyw William McKee, Shane Donnelly, David Hicks a Zak Hanna.
Merched Iwerddon sydd wedi bod yn flaenaf yn y ras y tair blynedd ddiwethaf. Ar ôl buddugoliaeth hanesyddol Sarah Mulligan yn 2013, wedyn Sarah Mc Cormack yn ennill yn 2014 a 2015. Ac mae Sarah sy’n 29 oed, yn ei hôl eto eleni i geisio cael tair buddugoliaeth yn olynol. Hefyd yn nhîm Iwerddon bydd Bethany Murray.
Bydd tîm Iwerddon yn cael eu herio gan Loegr, gyda Lindsey Brindle yr ail llynedd yn eu plith. Bydd Lou Roberts yn y tîm. Hi oedd enillydd Ras y Gwyll eleni. Y drydedd yn y tîm ydyw Heidi Dent.
Mae tîm merched Cymru yn un go newydd gyda Bronwen Jenkinson a Sian Williams yn ymuno â Katie Beecher, y bumed yn ras y llynedd. Tîm Gogledd Iwerddon ydyw Shileen O’Kane, Hazel McLaughlin a Paulette Thompson..
Ar hyn o bryd nid oes sicrwydd pwy fydd yn cynrychioli’r Alban.
Fel y soniwyd bydd rhai rhedwyr neilltuol iawn yn cystadlu am Gwpan yr Wyddfa yn y bore. Bydd enillydd y llynedd Max Nicholls yn dychwelyd a bydd eraill yno yn defnyddio’r ras fel hyfforddiant ar gyfer Treialon Rasys Mynydd Prydain cyn Pencampwriaeth Rasio Mynydd y Byd yn yr Eidal fis Awst. Bydd trydydd yn ras y llynedd yno Martin Cox a hefyd rhedwyr rhyngwladol Prydain Tom Adams a Jacob Adkin.
Mae pencampwraig Rhedeg Pellter ar Fynydd y Byd Annie Conway yn debygol o fod yn cystadlu yng Nghwpan yr Wyddfa. Bydd y ordyrrog hon o’r Hen Ogledd yn defnyddio’r ras fel modd i baratoi ar gyfer Treialon y Byd ddiwedd mis Gorffennaf..
Mae Stephen Edwards yn awyddus iawn i atgoffa pawb fod y ras yn fwy na jest ras, byd yr achlysur yn ddigwyddiad o bwys, gyda noddwyr atyniadau ac awyrgylch gŵyl pob mis Gorffennaf yn Llanberis.:
“Corff gwirfoddol sy’n trefnu pob dim, ac mae oriau ac oriau o waith paratoi i’r digwyddiad. Mae sawl busnes lleol yn ymwneud â’r achlysur a bydd miloedd yn dod draw i weld y ras. Eleni bydd rasys ‘Hwyl i Bawb’ i’r plant bach am 11 o’r gloch fore’r ras a bydd y rasys plant yn cychwyn ar ôl y ras fawr am 2 o’r gloch y pnawn.
“Mae cyffro yn Llanbêr wrth i ddydd y ras agosáu. Mae’r ras yn golygu cymaint i’r pentref a’r ardal. Mae pawb mor falch o’r ras a’r awyrgylch y bydd yr ymwelwyr yn siŵr o fod yn ei deimlo. Mae’n anhygoel fel mae’r holl beth wedi tyfu dros y deugain mynydd er 1976.”
Mae Stephen hefyd yn falch iawn o groesawu’r noddwyr newydd Elim Peugeot. Cyn hynny cefnogwyd y ras am 3 blynedd gan Tyn Lon Volvo.
Meddai Colin Smart o Elim Peugeot Llangefni:
” Mae Elim Peugeot yn werthwyr ceir lleol adnabyddus. Mi ydym yn falch o noddi digwyddiadau yn yr ardal. Yr ydym wedi bod wrthi bellach ers 50 mlynedd ac wedi cychwyn yn wreiddiol yn Llanrug prin dair milltir i ffwrdd. Braf ydyw cael gweld ein henw fel prif noddwr yn un o gystadlaethau rhedeg mynydd mawr y byd – un o rasys anoddaf Ewrop gyda rhedwr o safon ryngwladol.
“Bu Elim Peugeot yn gweithio’n glos gyda’r pwyllgor i wneud yr hyn oedd eisio i noddwr ei wneud. Mi ydym yn noddi sawl digwyddiad arall elusennol ar draws Cymru drwy’r flwyddyn.
“Mi ydym yn dra diolchgar i bawb sydd wedi ymwneud a chodi arian i’r fath achlysuron dros y flwyddyn ac yn edrych ymlaen i helpu’r digwyddiad gryfhau o nerth i nerth. Dewch draw atom ar y diwrnod i gael golwg ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig. A phob lwc i bawb sy’n rhedeg..”