Annwyl Gystadleuwyr, Noddwyr, Cefnogwyr a Gwirfoddolwyr Ras Rhyngwladol Yr Wyddfa,
Yn gyntaf rydym yn mawr obeithio eich bod chwi oll yn cadw yn ddiogel, iach a hapus yn y cyfnod anodd a thywyll rydym yn ei wynebu ar draws y byd eang.
Ar ran holl drefnwyr Ras Rhyngwladol Yr Wyddfa rydym gyda thristwch yn cyhoeddi ein bod yn gohirio Ras Yr Wyddfa 2020 ac yn cadarnhau na fydd Ras yr Wyddfa 2020 yn cael ei gynnal.
Mae hyn wrth gwrs oherwydd y sefyllfa argyfyngus COVID-19.
Mae yn anorfod ein bod yn rhoi eich diogelwch chwi, diogelwch ein gwirfoddolwyr; cefnogwyr ac wrth gwrs ein cymuned yn flaenoriaeth. Rydym yn sicr na fyddai’r penderfyniad hwn yn syndod i chwi er byddem yn dallt ac yn rhannu eich siomedigaeth.
Gallwn eich sicrhau bydd yr holl drefnwyr yn gweithio yn galed fel arfer i sicrhau llwyddiant Ras Yr Wyddfa yn 2021 ac rydym oll yn edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawu pawb yn ôl i Lanberis yn 2021.
I’r rhai ohonoch bydd yn bwriadu cystadlu yn 2021 yna ni fydd angen i chwi ail gofrestru pan fydd cyfnod mynediad y Ras yn ail agor ym mis Mawrth 2021.
Bydd ein gwirfoddolwyr yn sicrhau bod eich cais i gystadlu yn trosglwyddo yn awtomatig i gofrestr Ras Yr Wyddfa yn 2021 ac ni fyddai unrhyw daliad ychwanegol yn ddyledus.
Gan mai gwirfoddolwyr lleol sydd yn trefnu Ras yr Wyddfa yn ei gyfanrwydd rydym yn gofyn yn garedig eich bod yn cefnogi’r trefnwyr, yn lleihau ein baich gwaith ble bosib ac yn ein caniatáu i drosglwyddo eich cais i gystadlu yn awtomatig.
Pe na fyddai yn bosib i chi gystadlu yn Ras Yr Wyddfa 2021, yna wrth gwrs fe fydd y ffenestr trosglwyddo enw ar agor ichi.
I gloi, rydym yn erfyn arnoch oll i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ac i amddiffyn ein Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol drwy aros gartref a pheidio â theithio ble na fod y daith yn anorfod.
Gobeithio byddwch yn gallu parhau i ymarfer rhedeg ble mae hyn yn bosib – cofiwch, mae ein mynyddoedd ar gau am y tro.
Dymuniadau gorau i chwi oll. Cadwch yn ddiogel, yn iach ac yn hapus.
Edrychwn ymlaen at Ras yr Wyddfa yn 2021.
Cofion,
TIM RAS WYDDFA