Adroddiad Ras – 43ain Ras yr Wyddfa JEWSON

Alberto Vender yn cadw bri’r Eidal a Bronwen Jenkinson yn llwyddo dros Gymru

Dyma’r ddau a wnaeth eu marc ar Ras yr Wyddfa 2018

Bu’n gyffro unwaith eto ar fynydd uchaf Cymru gyda bron i 600 o redwyr yn mynd ati i wneud eu gorau i fyny llwybrau caregog yr hen fynydd. Ar y brig wedi ymdrech fawr daeth Alberto Vender o’r Eidal. Dilynnodd ôl traed ei gydwladwr Davide Magnini a oedd yn fuddugol y llynedd. Eidalwr arall at y casgliad a adawodd eu hôl yn gorffennol: Martin May, Fausto Bonzi a Marco DeGasperi.

I Bronwen Jenkinson o’r Waunfawr, mi oedd hwn yn siŵr yn ddiwrnod mawr iawn iawn.  Bu ras 2016 yn un siomedig iddi, yn 2017 yr oedd yn bedwaredd, ond eleni yn ei thrydydd ymgais dyma gipio’r wobr. Dyma’r Gymraes gyntaf i ennill ers Angela Carson yn 1989.

Roedd hi’n gymylau isel ac yn boeth a chlos wrth i’r rhedwyr fynd ar i fyny am y pum milltir, er ei bod ychydig yn oerach o dop Allt Moses i fyny. Roedd y golygfeydd i gyd yn cuddio, a’r rhedwyr a’u trwynau ar y llwybr. Dyma ras bellach wedi prifio dipyn o’i chychwyn cyntaf yn 1976 i fod yn ddigwyddiad o bwys rhyngwladol.

Mae hefyd yn ras gyda chefnogaeth leo,l a gwelwyd cannoedd o ardalwyr ac ymwelwyr ar y lôn ac ar y mynydd yn cefnogi’r  achlysur. Cychwynwyd y ras am hanner dydd gan y Cynghorydd Ioan Thomas (Deilydd y portffolio datblygu Economaidd Cyngor Gwynedd).

Ar y cychwyn roedd dau o redwyr Lloegr yn arwain: enillydd 2016 Chris Smith a Chris Holdsworth gyda Rob Samuel tîm Cymru yn eu cwmni. Hanner ffordd i fyny Chris Smith oedd yn gyntaf ac yn bedwerydd cryf Zak Hanna o Ogledd Iwerddon. Tua munud yn arafach roedd Alberto Vender, Guilio Simonetti ac enillydd 2012  Murray Strain.

Wrth i’r ras fynd rhagddi drwy Allt Moses, Clogwyn a Bwlch Glas ennill tir o hyd wnai Alberto Vender gan ddal Rob Samuel a oedd ychydig y tu ôl i’r arweinydd Chris Smith, wrth agosau at y copa.

Yn y cyfamser yn Ras y Merched roedd  Bronwen Jenkinson wedi gafael ynddi o’r cychwyn i fyny Allt yr Parc am Benceunant. Erbyn hanner ffordd yr oedd ganddi gryn flaen dros y tair Saesnes Sophie Noon, Scot Miranda Grant a Caitlin Rice.

Ni fu dim newid ac erbyn y copa ac yr oedd Bronwen Jenkinson wedi ennill mwy fyth o dir – bellach ddau funud llawn ar y blaen.

yn ôl i ras y dynion: wrth fynd am i lawr o’r copa  yr oedd gan Chris Smith o hyd flaen sylweddol ar Alberto Vender a Rob Samuel.

O hynny ymlaen gwibiai Chris Smith ar i waered yn nadreddu rhwng rhedwyr eraill a cherddwyr gydag Alberto Vender yn nesau a nesau ato wrth i’r ddau agosau at bont Clogwyn gyda cherrig mân yr Allt Goch yn crensian dan eu gwadnau.

O’r diwedd aeth Alberto Vender amdani gan wibio heibio Chris Smith yn dangos ei allu arbennig o redeg i lawr. Erbyn Hanner Ffordd i lawr yr oedd wedi ennill blaen o 10 eiliad.

Ar yr un adeg yr oedd Rob Samuel yn dal yn drydydd ond ar ei sodlau yr oedd Chris Holdsworth yn gwneud ei orau i ddal y tri o’i flaen a hynny a dim ond milltir a hanner ar ôl.

Daeth yn amlwg fod Alberto Vender yn ennill mwy o dir bob llam. Cyrhaeddodd y col tar caled – doedd fawr o le i neb ei basio, a gallai deimlo’n ei bod yn mynd yn haws arno. Ond colli tir wnaeth Chris Smith i Rob Samuel ac wedyn Chris Holdsworth.

Wrth gyrraedd y 400m diwethaf dechreuodd yr Eidalwr 22 oed Alberto Vender weld ei fod wedi gwireddu ei nod, a dod un un arall o redwyr mawr yr Eidal i adael ei ôl troed ar yr Wyddfa. Gyda’r gymeradwyaeth fyddarol yr oedd wedi ei lethu gan orfoledd wrtth groesi’r llinell derfyn.

Gwnaeth hynny mewn 1:06:41. Er nad oedd otj am hynny ar y pryd, mi oedd o fewn 2 eiliad i gyflymder ei gydwladwr a enillodd y llynedd. Roedd rhediad Chris Holdsworth i lawr yn un neilltuol o dda – yn well na 2017 – gan orffen yn ail mewn 1:07:30.

Lai na hanner munud ar ei ôl dyma Rob Samuel yn gorffen gyda bloedd o gymeradwyaeth gan y dorf. Mi oedd ei amser 1:07:53 y gorau yr oedd wedi ei redeg. Yn bedwerydd oedd Chris Smith o Loegr ac ar ei ôl yntau Simonetti o’r Eidal.

Yng nghystadleuaeth y timau, yr Eidal a orfu yn erbyn Lloegr wrth i’r wythfed safle gael ei ennill gan Manuel Solavaggione.

Yn ôl i ras y merched: Heb un cam o’i le yn y darnau dyrys anwastad hynny: Clogwyn  Allt Moses a Ty’n yr Ardd daeth Bronwen i lawr i ennil ei bri. Wrth gyrraedd y col tar i Lanberis, yr oedd yn amlwg nad oedd neb yn agos i’w herio. Yr oedd wedi gadael ei hôl ar Bencampwriaeth Ewrop yn 12fed safle fis Mehefin, a dyma garreg filltir arall yn ei thaith i lwyddiant.

Yn gorffen mewn 1:20:41, dyma’r amser cyflymaf i unrhyw Gymraeg ei gael erioed.

Nid fod hynny’n bychanu camp Miranda Grant o’r Alban yn ail teilwng (1:22:27), gyda Sophie Noon yn drydedd (1:23:00), Caitlin Rice yn bedwaredd a Scot Jill Stephen yn bumed.

Asgell gwybedyn oedd y gwahaniaeth rhwng Lloegr a’r Alban yn y gystadleuaeth tîm merched. Yr oedd gan y ddau dîm 16 pwynt. Ond gan fod yr Alban wedi cymryd yn llai o amser, dyna’r tîm ddaeth i’r brig: Miranda Grant, Steph Provan a Jill Stephen.

Meddai Bronwen Jenkinson:

“Gwireddu breuddwyn oedd hyn. Mae’n ras leol i mi, er ei bod yn ras o statws rhyngwladol. Mae’r ras hon yn un y gwn amdani o’m plentyndod. Dwi wedi gweld gymaint o redwyr da yn gadael ei hôl. A rŵan dwinna’n un o’r enillwyr!

“Mi oeddwn i’n obeithiol cyn y ras, er bod gen i ambell i wayw a phoenau mân yr wythnos yma. Does dim gwybod tan y diwrnod ei hun. Ond mi weithiodd pethau – anodd coelio!”

Yn ystod y diwrnod cafwyd dros 200 yn rhedeg yn y rasys ieuenctid o’r rhai dan 10 oed i rai dan 18 oed. Mae’n bosib bod rhai o enillwyr y dyfodol yn eu plith. Diolch yn arbennig i dîm Chwaraeon am Oes Cyngor Gwynedd am y trefnu.

Meddai Stephen Edwards trefnydd y ras:

Dyma ddiwrnod! Hefo’r ras yn cychwyn am hanner dydd, mae beth ydw i’n i gofio am y bora yn niwlog iawn, yn enwedig gan fod yna gymaint o waith hefo’r rasys ieuenctid hefyd. Doedd y tywydd ddim yn wych chwaith – fawr o ddim i weld yn y copa – dim ond cymylau. Ac mae’r ffaith bod yna gymaint o bobl hyd lle yn ei gwneud hi’n anodd bob amser. Ond fel arfer roedd y stiwardiaid a’r timau achub yn ymorol am y sefyllfa yn gwbl hyderus.

“Mi ydym yn cael cefnogaeth arbennig bob blwydd o’r Eidal. Mae’n cyswllt â Morbegno a ras Trofeo Vanoni yn parhau’n gadarn. Mae rhedwyr newydd medrus yn cyrraedd atom yn flynyddol, fel mae buddugoliaeth Alberto’n dangos eleni eto. Ond wrth gwrs allwn i ddim peidio â gwirioni o weld Bronwen yn ennill ras y merched a Rob yn drydydd yn ras y dynion !

“Mi ydan ni wedi magu traddodiad yma yng Nghymru o feithrin rhedwyr mynydd da, a gobeithio bod y ras heddiw wedi bod yn fodd i atgyfnerthu hynny.

“Mi hoffwn innau ddiolch yn arbennig i’r noddwyr, yn benodol Charlotte, Dylan, Jason a thîm Jewson am y gefnogaeth hael fel prif noddwyr. Hefyd Also inov-8, unwaith eto am eu nawdd a’r gwobrau i’r enillwyr. Diolch hefyd i’r Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd a thîm Chwaraeon am Oes (trefnwyr y rasys ieuenctid). A diolch unwaith eto am y gwirfoddolwyr a chefnogwyr a phobl Llanberis a’r ardal am wneud y diwrnod yn un i’w gofio.”

 Canlyniadau  Ras Ryngwladol yr Wyddfa 43ain Jewson

Dynio

  1. Alberto Vender (Yr Eidal) 1:06:41
  2. Chris Holdsworth (Lloegr) 1:07:30
  3. Rob Samuel (Cymru) 1:07:53

Tîm: Yr Eidal

 Merched

  1. Bronwen Jenkinson (Cymru) 1:20:41
  2. Miranda Grant (Yr Alban) 1:22:20
  3. Sophie Noon (Lloegr) 1:23:42

Tîm: Yr Alban

Y canlyniadau i gyd gan TDL Events Services yma/ here

Lluniau gan Sport Pictures Cymru yma/ here

Uchafbwyntiau  ar lein via S4C

DIWEDD

43ain JEWSON Ras Ryngwladol yr Wyddfa 2018 – Rhagolwg y Ras

Llanberis, Cymru – Gyda llai na wythnos cyn cychwyn Ras yr Wyddfa 43ain Jewson, Ras-yr-Wyddfa, mae disgwyl i’r ras fynydd eiconig hon fod yn safon uchel, gan fod dros 600 o rhedwyr yn barod i gwblhau un o’r rasus mynydd anodda’ yn y DU

Mae noddwyr Jewson, gyda chymorth cwmni sydd arwain ar redeg mynyddoedd; inov8 unwaith eto fel cefnogwyr mawr y digwyddiad yn 2018, sy’n dechrau hanner dydd o Gae’r Ddol yn Llanberis. Eleni, bydd y Cyng Ioan Thomas, Aelod Cabinet Datblygu Economi Cyngor Gwynedd yn cychwyn y ras.

Nodweddion eraill y dydd Sadwrn fydd Rasus Ieuenctid traddodiadol yn dechrau 12:10 (deg munud ar ôl y brif ras), Ras Teulu ‘Hwyl i Bawb’ yn cychwyn am 10.30am, a rasus iau lleol nos Iau, a rhagwelir bydd dros 200 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan. Mae’r Rasus Ieuenctid yn cael eu trefnu gan Tim Chwaraeon am Oes Cyngor Gwynedd ac wedi eu noddi gan Mantell Gwynedd a Cwmni lleol Am Dro.

Mae cofrestru ar gyfer y brif ras yn agor am 4yh ddydd Gwener Gorffennaf 20fed a bydd y cofrestru yn cau am 8.30yh gyda’r cofrestr diwrnod y ras yn cychwyn o 8.30yb hyd at 11.30yb ar 21 Gorffennaf.

Rydym yn rhagweld digwyddiad o safon uchel eto eleni gyda rhai o brif athletwyr y DU yn cymryd rhan. Bydd timau o Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a’r Eidal unwaith eto yn mynd amdani i gwblhau y cwrs 10 milltir heriol o’r mynydd enwog hon yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Ystyrir bod y ras yn un o’r rhai mwyaf ym myd rhedeg mynyddoedd ac yn denu rhai o redwyr gorau yn Ewrop. Fodd bynnag, mae’r digwyddiad wedi tyfu dros y pedair degawd ddiwethaf i fod yn un ar restr fwced sawl unigolyn ar draws y byd, gan ei fod yn rhywbeth mae miloedd yn anelu ato, ond dim ond cannoedd yn unig sy’n cwblhau’r ras o Lanberis i gopa’r Wyddfa.

Mae tystiolaeth o boblogrwydd cyffredinol y ras unwaith eto wedi bod yn amlwg gan fod y 650 o lefydd ar gael ar-lein ar y 1af o Fawrth wedi ei llenwi ymhen 2 ddiwrnod.

Rhagolwg Ras y Dynion

Yn gwisgo eu crysau rhyngwladol bydd balchder mwyaf fydd y rheini yng Nghymru. Mae golwg gryf iawn i dîm dynion Cymru A yn 2018 gan gynnwys aelod RAF Mike Kallenberg, Peter Ryder, Mark Hopkinson a’r rhedwr lleol Rob Samuel.  Bydd Samuel allan yn dyblygu ei ffurf o ychydig wythnosau’n ôl pan enillodd yn argyhoeddiadol y ras Twlight inov8 i gopa’r Wyddfa.

Mae Cymru hefyd yn ymgymryd â Thîm B yn ras y dynion, wedi ei ddosbarthu fel sgwad ddatblygol, sy’n cynnwys y bachgen o Dolgellau, Tom Roberts, Owen Roberts a rhedwr de Cymru, Dan Bodman.

Fel erioed, bydd tîm Lloegr yn gryf a byddant yn ceisio herio ar gyfer coroni unigolion a tim. 
Ar ôl ennill yn gadarn nol yn 2016 bydd Chris Smith yn dychwelyd i’r llinell gychwyn ac yn un i wylio allan amdano. Yn ymuno ag ef bydd Chris Holdsworth, pedwerydd yn 2017 yn ogystal a Tom Addison a Harry Holmes.

Ar bapur, un o’r timau mwyaf clasurol sy’n ymuno yn 2018 yw Tim yr Alban. Bydd enillydd 2012 Murray Strain yn ymuno gyda James Espie (5ed 2017), Robert Simpson ac Al Anthony. Mae pob un o’r pedwar wedi bod yn gryf iawn mewn rasus led led Prydain a Rhyngwladol ym 2018 a bydd yn frwydr wych ar gyfer teitl y tîm hwnnw yn erbyn pedwarawd Saesneg.

Mae gan yr Eidal hanes cryf yn y digwyddiad, gyda Davide Magnini yn ennillydd enwog yn 2017. Er bod y trio Giulio Simonetti, Alberto Vender a Manuel Solavaggione yn redwyr anhysbys, gallwn ni fod yn siŵr y bydd y ‘Azzurri’ yn heriol i anrhydeddau ddod diwrnod y rasio.

Mae gan Iwerddon hanes gyfoethog o lwyddiant yn y digwyddiad. Bydd James Kevan yn dychwelyd i arwain cwartet Gwyddelig cryf gan gynnwys Brian Furey, Seamus Lynch a Tom Lupton.

Ar ôl redeg gwych yn yr diweddar yn y bydd Mynydd Ewropeaidd, mae Zak Hanna yn arwain her Gogledd Iwerddon gyda rhedwr y dref yn 2017, Gavin Mulholland. Mae’r llinell gychwyn wedi gwblhau gyda William McKee a Tim Johnston.

Yn y ras agored, mae Tom Owens, rhedwr uwch-ryngwladol Salomon a Phrydain yn gwneud y daith i’r de a bydd yn ceisio herio mewn ras a redwyd yn ôl yn 2004!

Rhagolwg Ras y Merched

Mae tîm merched Cymru yn edrych yn gryf iawn gyda rhedwraig rhyngwladol y DU Bronwen Jenkinson yn ceisio gwella ar ei 4ydd safle yn 2017. Mae gorffeniad y 12fed safle yn ei hwb cyntaf yn y DU ym mhencampwriaethau Ewropeaidd diweddar yn tanlinellu ei ffurf. Bydd y rhedwyr mynydd Andrea Rowlands, a Katie Beecher yn ei ymuno, ynghyd a Elliw Haf (Eryri Harriers) fydd yn cystadlu i Gymru am y tro cyntaf eleni.

Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw’r tîm merched yn Lloegr unwaith eto yn heriol ar gyfer lle gorau o’r podiwm. Mae Katie Walshaw, yn rhedeg eto ar ôl dangosiad cryf ym mhencampwriaeth mynydd Ewrop yn diweddar. Ymunodd Todmorden Harrier Annie Roberts â Walshaw, sydd wedi bod yn rhedeg yn dda ymhlith hyrwyddwyr Prydain yn 2018 gyda Sophie Noon a Louisa Powell-Smith.

Yn debyg i’r dynion mae Tim yr Alban yn addo llawer. Ar ôl ennill teitl ddiweddar ‘World Long Distance Mountain’, mae Charlotte Morgan mewn ffurf ysblennydd ac yn edrych i wella ar ei dangosiad diwethaf wrth orffen yn 5ed yn ras 2016. Bydd Stephanie Provan, Georgia Tindley a Jill Stephen yn ymuno sy’n addo i fod yn chwartet rhyfeddol o’r gogledd o’r ffin.

Bydd enillwyr Ras yr Wyddfa, Megan Wilson a Shileen O’Kane yn cynrychioli Gogledd Iwerddon ac yn cael eu hymuno â Sarah Graham ac Esther Dickson

Mae merched Gwyddelig wedi cipio’r ras yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, ar ôl Sarah Mulligan ennill yn 2013 a 2016, a buddugoliaethau olynol yn 2014 a 2015 ar gyfer Sarah McCormack, ni fydd merched Iwerddon yn teithio i’r ras yn 2018.

Mae trefnydd y ras, Stephen Edwards, yn awyddus i nodi bod y digwyddiad yn llawer mwy na dim ond hil, gyda noddwyr mawr, atyniadau ac ymdeimlad o ŵyl sydd bron yn dod â Llanberis i ddyddiad rasio traddodiadol trydydd penwythnos ym mis Gorffennaf

“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu prif noddwr Jewson i’r ras eleni ac mae’r gefnogaeth oddi wrthynt wedi bod yn wych. Rydym hefyd yn falch o gael inov8 dan sylw ac fel bob amser yn ddiolchgar iawn i’n holl noddwyr.

 “Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Gyngor Gwynedd, Tîm Digwyddiadau Gwynedd a Tîm Chwaraeon am Oes sy’n helpu gyda’r rasus ieuenctid unwaith eto yn 2018 ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r Cynghorydd Ioan Thomas i gychwyn y ras am hanner dydd.

“Mae wedi bod yn haf gwych fel y gwyddom i gyd yn y DU pan ddaw’r tywydd a gyda’r gobaith o barhau gyda’r tywydd da rydym yn disgwyl un o’r torfeydd mwyaf erioed yn Llanberis eleni.

“Mae’r awyrgylch yn y pentref ar gyfer penwythnos Ras yr Wyddfa yn anhygoel, mae’n rhaid i chi fod yma er mwyn gallu deall hynny. Mae’r ras hon yn golygu gymaint i’r ardal a phobl Llanberis, maent yn falch o’r ras a’r hyn mae’n ei bortreadu i’r miloedd o ymwelwyr sy’n dod yma ar gyfer y ras a’r penwythnos. I feddwl beth sydd wedi dod yn yr holl flynyddoedd hynny ar ôl y ras gyntaf honno yn 1976 – mae’n anhygoel iawn.

“Dylai’r rasio fod yn wych unwaith eto, gyda maes cryf iawn o redwyr o’r cenhedloedd cartref, Iwerddon a’r Eidal. O safbwynt y cyfryngau, mae gennym becyn uchafbwyntiau teledu ar S4C y Sul ar ôl y ras am 9yh a byddwn yn defnyddio Facebook ‘Yn Fyw’ i ddarlledu gorffeniad y ras.

“Hwn fydd fy 10fed flwyddyn o drefnu’r digwyddiad eiconig hwn ac nid yw’n dweud na allwn roi’r ras heb y cannoedd o wirfoddolwyr sy’n cefnogi yn ystod y digwyddiad. Maent yn troi allan o flwyddyn i flwyddyn i help yn y ras a hoffwn ymestyn diolch anferth i bob un ohonyn nhw sy’n helpu i wneud Ras yr Wyddfa beth ydyw.”

Am ragor o wybodaeth hil, ewch i www.snowdonrace.co.uk

DIWEDD